Menu
Gyda hyder, mae popeth yn bosib / With confidence, everything is possible
Home Page

Meithrin a Derbyn / Nursery & Reception

Search
Translate

Llyfryn Meithrin 2021-22 / Nursery Booklet 2021-22

Croeso i’n dosbarth ni!😃

 

Croeso i ddosbarth Meithrin a Derbyn. Miss Thomas a Mrs Beard yw ein hathrawon ac rydym yn lwcus bod gennym Mrs Thomas, Mrs Jones a Miss Walters i’n helpu hefyd.

 

Thema

Ein thema'r tymor yma yw 'Pop, Fflach, Bang!'. (Gweler y trosolwg isod er mwyn gweld y gweithgareddau cyffrous fydd yn digwydd yn ystod y tymor).
 
Addysg gorfforol

Bydd cyfnodau addysg gorfforol ar Ddydd Mawrth  - cofiwch wisgo dillad addas i’r ysgol. Gwisgwch esgidiau addas bob dydd gan ein bod ni'n ymdrechu i gyflawni milltir y dydd ac rydym yn actif wrth weithio yn y Cyfnod Sylfaen. Dewch a welis ar gyfer ein Mercher Mwdlyd! Byddwn yn gweithio a dysgu yn yr ardal allanol.

 

Ffolderi

Ar ddechrau tymor yr Hydref bydd eich plentyn yn derbyn ffolder newydd. A fyddwch mor garedig a gofalu am y ffolder os gwelwch yn dda oherwydd fe fydd y ffolder yn cael eu defnyddio’n wythnosol rhwng y cartref a’r ysgol. Dewch a'r ffolder nol i'r ysgol pob Dydd Llun os gwelwch yn dda. 

 

Ffrwyth, dŵr ac ysgol iach

Mae croeso i chi ddod a ffrwyth YN UNIG i'r ysgol i'w bwyta yn ystod amser chwarae (dim bisgedi / ffrwyth wedi sychu). Caniateir dŵr llonydd yn ystod y dydd. Gellir rhoi 'squash' i  blant yn eu pecynnau bwyd ond anogir bwyta'n iach yn yr ysgol. DIM diodydd ffisi na losin os gwelwch yn dda. Rydym hefyd yn ysgol DDI-GNAU oherwydd peryglon alergedd difrifol ymysg disgyblion. 

 

Cinio

Cofiwch i ddefnyddio system dalu 'Squid' ar lein ar gyfer cinio eich plentyn.

 

 

Welcome to our class!😃


Welcome to Nursery and Reception class. Miss Thomas & Mrs Beard are our class teacher and we are lucky to have Mrs Thomas, Mrs Jones and Miss Walters to help us too.

 

Theme

Our theme this term is 'Pop, Bang, Flash!'. (Please see the overview below for ideas and activities planned for the term ahead).


P.E
Physical education lessons are on a Tuesday - please wear appropriate clothing to school on this day. Try to wear appropriate footwear every day as we endeavour to walk the daily mile. We are also active when learning in the Foundation Phase. Please bring wellies for our 'Welly Wednesdays', we will be working outdoors.


Folders

At the beginning of the Autumn Term your child will receive a new folder. Could you please ensure that you take care of the folder as it will be in weekly use between home and school. Please return the folder every Monday.

 

Fruit, water and healthy school

Children can bring fruit to school to enjoy at break time (no biscuits /dried fruit). ONLY still WATER is allowed during the day. Squash is only permitted in lunch boxes - NO fizzy pop or sweets please. We are a NUT FREE school due to serious implications of allergy. 

 

Lunch money

Remember to use the online payment system 'Squid' for dinners.

Gwefannau defnyddiol / Useful websites

Aps defnyddiol ar gyfer ipads/ Useful Apps for ipads

Nadolig Llawen wrth Sion Corn

Still image for this video
Nadolig Llawen plant y Meithrin a'r Derbyn. Rydych yn lwcus iawn mae Sion Corn wedi gadael neges arbennig i chi gyd.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.
Top