Croeso i’n dosbarth ni!😃
Croeso i ddosbarth blwyddyn 3 a 4. Miss Squire a Mrs Beard yw ein hathrawon ac rydym yn lwcus bod gennym Miss Pritchard i’n helpu hefyd.
Thema
Ein thema'r tymor yma yw ‘999 Argyfwng’ (Gweler y trosolwg isod er mwyn gweld y gweithgareddau cyffrous fydd yn digwydd yn ystod y tymor).
Addysg gorfforol
Bydd cyfnodau Addysg Gorfforol ar Ddydd Mawrth a Dydd Mercher - cofiwch wisgo dillad addas i’r ysgol.
Gwaith cartref
Mi fydd tasgau cartref yn cael eu gosod ar Ddydd Gwener yn ardal Teams y dosbarth ar Hwb - cwblhewch y tasgau cartref erbyn y Dydd Gwener ganlynol os gwelwch yn dda.
Llyfrau darllen
Mi fydd llyfrau darllen yn cael eu dosbarthu ar Ddydd Gwener a gofynnwn i chi eu dychwelyd erbyn Dydd Iau. Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu darparu llyfr newydd os dydy llyfrau ddim yn dychwelyd i'r ysgol yn wythnosol.
Ffrwyth, dŵr ac ysgol iach
Mae croeso i chi ddod a ffrwyth YN UNIG i'r ysgol i'w bwyta yn ystod amser chwarae (dim bisgedi / ffrwyth wedi sychu). Caniateir dŵr llonydd yn ystod y dydd. Gellir rhoi 'squash' i blant yn eu pecynnau bwyd ond anogir bwyta'n iach yn yr ysgol. DIM diodydd ffisi na losin os gwelwch yn dda. Rydym hefyd yn ysgol DDI-GNAU oherwydd peryglon alergedd difrifol ymysg disgyblion.
Cinio
Cofiwch i ddefnyddio system dalu 'Squid' ar lein ar gyfer cinio eich plentyn.
Welcome to our class!😃
Welcome to Year 3 & 4. Miss Squire & Mrs Beard are our class teacher and we are lucky to have Miss Pritchard to help us too.
Theme
Our theme this term is '999 Emergency Services' (Please see the overview below for ideas and activities planned for the term ahead).
P.E
Physical education lessons are on Tuesdays and Wednesdays - please wear appropriate clothing to school.
Home tasks
Home tasks will be set every Friday in the children's Teams area on the Hwb platform - please complete home tasks by the following Friday.
Reading books
Reading books will be distributed every Friday and we ask you to return them by the following Thursday. Unfortunately, if books are not returned weekly, we will not be able to provide a new book until it is returned.
Fruit, water and healthy school
Children can bring fruit to school to enjoy at break time (no biscuits /dried fruit). ONLY still WATER is allowed during the day. Squash is only permitted in lunch boxes - NO fizzy pop or sweets please. We are a NUT FREE school due to serious implications of allergy.
Lunch money
Remember to use the online payment system 'Squid' for dinners.
Gwefannau defnyddiol / Useful websites